Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dysgwch fwy am eich Gwasanaethau Plant

Hyb Cymorth Cynnar

Gall yr Hyb roi gwybodaeth i chi am wasanaethau a all gefnogi eich teulu mewn llawer o wahanol ffyrdd fel cymorth rhianta, cymorth ieuenctid, cymorth iechyd, a chymorth i ddod o hyd i wasanaethau fel clybiau ar-ôl-ysgol a gofal plant. Bydd y Tîm yn gofyn i chi nodi’r hyn sy’n bwysig i chi a’ch teulu ac yna’n nodi’r gwasanaeth cywir i weithio ochr yn ochr â chi.

Hyb Derbyn, Asesu a Diogelu Amlasiantaeth

Mae gweithwyr proffesiynol, gwirfoddolwyr, rhieni a gofalwyr yn cyfeirio pryderon sydd ganddynt am ddiogelwch a llesiant plant at yr Hyb Diogelu Amlasiantaeth (MASH). Bydd y Tîm wedyn yn casglu gwybodaeth gan asiantaethau fel ysgolion, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu, yr Heddlu a chofnodion cymorth blaenorol a gafwyd gan y Gwasanaethau Plant, ac yna bydd yr Uwch Weithiwr Cymdeithasol yn ystyried a yw’r plentyn yn profi niwed neu mewn perygl o brofi niwed. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd plant a phobl ifanc yn profi niwed ac felly nid oes angen Gweithiwr Cymdeithasol o’r Gwasanaethau Plant arnynt, ond efallai y bydd angen lefel lai dwys o wasanaeth fel Cymorth Ieuenctid neu Rianta. Os felly, caiff y teuluoedd eu cyfeirio at yr Hyb Cymorth Cynnar.

Os yw’r Uwch Weithiwr Cymdeithasol o’r farn fod y wybodaeth yn dangos bod y plentyn yn profi niwed neu mewn perygl o brofi niwed, caiff trafodaeth ei gynnal mewn Cyfarfod Strategaeth gyda’r Heddlu ac asiantaethau eraill megis y Gwasanaeth Addysg yn bresennol. Bydd y drafodaeth hon yn ystyried a oes angen cymryd unrhyw gamau ar unwaith i sicrhau bod y plentyn yn ddiogel, a pha gamau i’w cymryd nesaf.

Tîm Plant ag Anableddau

Mae’r Tîm hwn yn gweithio ochr yn ochr ag asiantaethau arbenigol megis Cynorthwywyr   Anghenion Addysgol Arbennig, Therapyddion Galwedigaethol Cymunedol a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol eraill. Pwrpas y Tîm yw asesu plant a phobl ifanc ag anabledd a’u teuluoedd. Gall hyn fod ar gyfer darparu addasiadau, offer, eiriolaeth, cyngor neu wasanaethau seibiant byr. Mae gan Ofalwyr hefyd yr hawl i asesiad o’u hanghenion eu hunain.

Mae’r Tîm yn cwmpasu’r Fwrdeistref gyfan, gan weithio gyda phlant a phobl ifanc o’u enedigaeth hyd at eu deunawfed. Mae’r Tîm yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd, gofalwyr maeth, sefydliadau gwirfoddol a gwasanaethau cyhoeddus eraill i ganfod y cymorth cywir ar yr adeg gywir i deuluoedd.

Timau Cymorth i Deuluoedd

Mae’r Timau Cymorth i Deuluoedd, ynghyd â gweithwyr proffesiynol eraill, yn gweithio ochr yn ochr â theuluoedd lle mae pryderon diogelu yn gofyn am gymorth tymor hwy. Rydyn ni’n ymgysylltu â theuluoedd i hyrwyddo deilliannau cadarnhaol i blant, gan weithio ochr yn ochr â’u rhieni, boed hynny ar sail Gofal a Chymorth neu Amddiffyn Plant. Gan weithio gyda’n gilydd, ein huchelgais yw cyflawni’ch nodau teuluol hyd nes bod dim angen cymorth arnoch mwyach gan y Gwasanaethau Plant a lle gall gwasanaethau eraill fel iechyd ac addysg ddiwallu’ch anghenion.

Bydd y Timau Cymorth i Deuluoedd bob amser yn ceisio cadw teuluoedd gyda’i gilydd os yw’n ddiogel gwneud hynny, a’n blaenoriaeth bob amser fydd sicrhau’r deilliannau gorau i blant a phobl ifanc. Mae eich cefnogi chi fel teulu cyfan yn bwysig iawn i ni. O bryd i’w gilydd, bydd angen inni ofyn i’r Llys wneud penderfyniadau i gefnogi’r ymdrechion i gadw’ch plentyn/plant yn ddiogel.

Tîm Cefnogi Newid

Mae’r Tîm yn cynnig tri gwasanaeth i deuluoedd:

Mae’r Gwasanaeth Allgymorth yn gweithredu trwy gydol y flwyddyn ac ar ôl oriau gwaith arferol. Mae’n darparu cymorth a deilwrwyd i helpu teuluoedd aros gyda’i gilydd. Mae hyn yn cynnwys gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc.

Mae’r Tîm SCAI yn gweithio ochr yn ochr â theuluoedd sydd angen ymyrraeth fwy dwys i gefnogi rhieni wrth iddynt wneud a chynnal newidiadau yn eu bywydau, lle gallai alcohol, sylweddau, iechyd meddwl neu gam-drin domestig fod yn effeithio ar eu gallu i fagu eu plant yn ddiogel. Mae’r rhan hon o’r gwasanaeth yn rheoli’r “llwybr cyn-geni” ac mae ganddi Weithiwr Cymorth Penodedig sy’n cefnogi teuluoedd trwy gydol beichiogrwydd ac ar ôl yr enedigaeth am hyd at 12 mis. Mae’r llwybr hon hefyd yn cynnwys Gweithiwr Arbenigol ar gyfer Tadau.

Mae’r Gwasanaeth Amser Teulu yn darparu cyngor ac arweiniad yn ystod sesiynau dan oruchwyliaeth i blant nad ydynt yn byw gartref fel y gallant dreulio amser gyda’u rhieni ac aelodau eraill o’r teulu. Maent yn cynnig cefnogaeth gyda gweithgareddau megis chwarae blêr, gweithgareddau synhwyraidd, “cefnogaeth oedran a chyfnod”, a hefyd yn annog gweithgareddau coginio ar gyfer y teulu. Maent hefyd yn cefnogi teuluoedd lle mai yna gynllun i ddychwelyd y plant gartref. Gall teuluoedd gael mynediad at fwy nag un o’r gwasanaethau hyn fel rhan o becyn cymorth.

Y Tîm Maethu

Mae Maethu Cymru Merthyr Tudful yn gweithio gyda Gweithwyr Cymdeithasol Plant i gefnogi plant a phobl ifanc pan na allant fyw gartref gyda’u rhieni neu aelodau eraill o’r teulu. Gall plant a phobl ifanc fyw gyda Gofalwr Maeth am ychydig ddiwrnodau neu fwy. Mae’r Tîm hefyd yn asesu ac yn cefnogi aelodau o’r teulu a ffrindiau a all fod yn gofalu am berthnasau ac a elwir yn Ofalwyr sy’n Berthnasau. Mae gan bob Gofalwr Maeth ei weithiwr cymdeithasol ei hun a elwir yn Weithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol, sy’n eu cefnogi yn eu rôl ac yn sicrhau bod y gofal y maent yn ei gynnig yn helpu plant a phobl ifanc i gyflawni eu nodau.

Plant sy’n Derbyn Gofal

Mae’r Tîm Plant sy’n Derbyn Gofal yn cefnogi’r holl blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal (mae hyn yn golygu bod y Llys wedi penderfynu bod angen gorchymyn fel Gorchymyn Gofal arnynt) nes eu bod yn cyrraedd 18 oed. Efallai bod y plant a’r bobl ifanc yn byw gyda rhieni, aelodau o’r teulu, gofalwyr maeth neu mewn cartrefi preswyl arbenigol neu letyau byw-â-chymorth. Mae’r Tîm yn gweithio ochr yn ochr â rhieni a gofalwyr, asiantaethau fel Ysgolion a’r Gwasanaeth Iechyd i sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc yn cael eu diwallu a’u bod yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn. Rydyn ni’n deall pwysigrwydd amser teulu ac yn cynnal Cyfarfodydd Adolygu Rheolaidd i wneud yn siŵr fod pob plentyn a pherson ifanc yn treulio amser gyda phobl sy’n bwysig iddynt. Cynhelir Cyfarfodydd Adolygu Plant sy’n Derbyn Gofal yn rheolaidd er mwyn edrych ar Gynllun y Plentyn a sicrhau bod gan y plentyn lais yn y mater. Caiff y Cyfarfodydd Adolygu eu cadeirio gan Swyddog Adolygu Annibynnol sy’n gyfrifol am sicrhau bod asiantaethau’n cydweithio i ddiwallu anghenion y plentyn a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cyflawni eu nodau.

Gwasanaethau Cymorth i Ymadawyr Gofal

Mae dwy gangen i’r gwasanaeth hwn.

Pan fydd pobl ifanc yn cyrraedd 15¾ oed, dyrennir Ymgynghorydd Personol ar eu cyfer er mwyn eu cynghori a’u cefnogi, a gallant barhau i ymwneud â phobl ifanc hyd at 25 oed. Rhwng 16 a 18 oed, bydd pobl ifanc hefyd yn parhau i gael Gweithiwr Cymdeithasol Penodedig. Bydd gan bobl ifanc Gynllun Llwybr ar waith sy’n ymwneud â’r hyn sy’n bwysig iddynt, y nodau y maent am eu cyflawni a’r rhai fydd yn eu cefnogi, a chaiff hwn ei adolygu’n rheolaidd.

Mae Llwybr at Waith yn gangen arall o’r gwasanaeth a ddatblygwyd i ddarparu cymorth arbenigol i bobl ifanc sydd/oedd yn derbyn gofal, er mwyn iddynt gael mynediad at waith, hyfforddiant, prentisiaeth, addysg bellach neu uwch. Yn aml, gall pobl ifanc sy’n gadael gofal wynebu mwy o rwystrau wrth geisio cael mynediad at y cyfleoedd hyn ac mae’r prosiect yn rhoi Mentor iddynt a fydd yn eu cefnogi ar ba lwybr bynnag y maent yn dewis ei ddilyn.

Dysgwch fwy am strwythur Gwasanaethau Plant yn ein taflen ffeithiau ac animeiddiad isod.