Ar-lein, Mae'n arbed amser

Marchnadoedd cyngor a gwybodaeth

Mae tair marchnad yn gweithredu'n rheolaidd yng Nghanol y Dref, sef:

  • Marchnad Dan Do Santes Tudful
  • Marchnad Stryd M&B
  • Marchnad Ffermwyr

Marchnad Dan Do Santes Tudful

Mae'r farchnad dan do hon yn cael ei rheoli gan Ganolfan Siopa Santes Tudful,

ac mae yn neuadd y farchnad ar lawr cyntaf y ganolfan siopa.  Mae amrywiaeth eang o stondinau yn y farchnad yn cynnwys deli, pobydd, gemydd, haearnwerthwr, caffi a llawer mwy.

Ar agor Llun - Sadwrn 9am-5.00pm

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Sarah Bell (01685) 384468

sarahbell@sttydfilshoppingcentre.co.uk

Marchnad Stryd M&B

Mae'r farchnad stryd yn cael ei gweithredu gan M&B Markets bod dydd Mawrth a dydd Sadwrn yn y Stryd Fawr a Sgwâr y Farchnad.  Mae'r farchnad yn cynnig dewis ardderchog o nwyddau a gwasanaethau yn cynnwys ffrwythau, llysiau, cig, dillad, matiau a llawer mwy.

Ar agor Mawrth a Sadwrn 9am – 5.30pm (cau am 5pm yn y gaeaf)

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Marchnad M&B:

Ffon: 07785 948636

Marchnad y Ffermwyr

Dyma farchnad sy'n cael ei rhedeg gan y cyngor ac mae'n agored i gynhyrchwyr bwyd.  Rhaid i'r holl gynnyrch gael ei dyfu, ei fagu neu fod â gwerth ychwanegol a rhaid iddo gael ei gynhyrchu o fewn cwmpas o 50 milltir. Mae hi'n farchnad fach gwerthu uniongyrchol ar y Stryd Fawr ac mae'n gyfyngedig i un cynhyrchydd o bob eitem.  Mae eitemau i'w gwerthu'n cynnwys cig oen, caws, cacennau, byrbrydau llysieuol a llyfrau.

Ar agor ar ddydd Gwener cyntaf bob mis 10am – 2.00pm

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rheolwr Canol y Dref ar y manylion isod.

Marchnadoedd a ffeiriau sydd ar ddod

Marchnad Stryd

Bob dydd Mawrth a dydd Sadwrn o 9yb tan 5.30yp (5yp yn y gaeaf) ar y Stryd Fawr, Merthyr Tudful.

Marchnad y Ffermwyr

Dydd Gwener cyntaf pob mis (heblaw am fis Ionawr) o 10yb tan 2yp ar y Stryd Fawr, Merthyr Tudful

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?