Ar-lein, Mae'n arbed amser

Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu 2023-2028

Datblygwyd y Strategaeth Gyfathrebu hon er mwyn egluro’r ffordd y mae'r Cyngor yn cyfathrebu gyda’i drigolion, ei bartneriaid, busnesau a phob aelod arall o’n cynulleidfa allweddol.

Mae’r Cyngor wedi ymroi i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon i drigolion y Fwrdeistref Sirol, gan gadw ein cynulleidfaoedd yn hyddysg ynghylch ein penderfyniadau a chadw mewn cysylltiad â hwy drwy gydol y siwrnai. Ein dull o weithredu yw sicrhau bod ein gohebiaeth a’n gweithgaredd ymgysylltu’n addas a’i fod yn ein cynorthwyo ni i gyflawni ein gweledigaeth a’n amcanion.

Yn ogystal, mae’n diffinio’r ffordd y byddwn yn gwrando ac ymateb i’r hyn a ddwedir wrthym gan ein cynulleidfa mewn sgwrs ddwyffordd.

Cysylltwch â Ni